Lee Waters was born and raised in the Amman Valley in Carmarthenshire. He was educated in Ammanford comprehensive school and was the first in his family to go to university, graduating with a First Class Degree in Politics from University of Wales, Aberystwyth. He worked in the US House of Representatives as an ESU Capitol Hill Scholar.
Prior to being elected to the Senedd he was Director of Wales’s leading independent think-tank, the Institute of Welsh Affairs. He also ran the green transport charity Sustrans Cymru, where he led the campaign for the world’s first Active Travel Act, and is also a former Chief Political Correspondent of ITV Wales, and BBC news producer.
In 2016 Lee was elected to the Senedd representing the Llanelli constituency and made his mark as a member of the influential Public Accounts Committee, as well as championing the digital agenda, artificial intelligence, the Foundational Economy and Active Travel. He was appointed Deputy Minister for Economy and Transport in the Welsh Government in December 2018.
Ganwyd a magwyd Lee Waters yn Nyffryn Aman yn Sir Gaerfyrddin. Derbyniodd ei addysg yn ysgol gyfun Rhydaman, ac ef oedd y cyntaf yn ei deulu i fynd i’r brifysgol, gan raddio gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Gwleidyddiaeth o Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Gweithiodd yn Nhŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau fel Ysgolor ESU Capitol Hill.
Cyn cael ei ethol i’r Senedd, roedd yn Gyfarwyddwr ar brif felin drafod annibynnol Cymru, y Sefydliad Materion Cymreig. Bu hefyd yn rhedeg yr elusen trafnidiaeth werdd Sustrans Cymru, lle bu’n arwain yr ymgyrch ar gyfer Deddf Teithio Llesol gyntaf y byd. Mae hefyd yn gyn-Brif Ohebydd Gwleidyddol ITV Wales, ac yn gyn-gynhyrchydd newyddion gyda’r BBC.
Yn 2016, etholwyd Lee i’r Senedd fel cynrychiolydd etholaeth Llanelli a gwnaeth ei farc fel aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dylanwadol, yn ogystal â hyrwyddo’r agenda ddigidol, deallusrwydd artiffisial, yr Economi Sylfaenol a Theithio Llesol. Fe’i penodwyd yn Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2018.
01554 774 902
Address / Cyfeiriad
43 Pottery Street
Llanelli
Carmarthenshire
SA15 1SU
43 Stryd y Crochendy
Llanelli
Sir Gaerfyrddin
SA15 1SU